Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ymateb i'r Papur Gwyn 'Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad' (10 Ebrill 2017)

1.           Ers cyhoeddi'r Papur Gwyn 'Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad' (y Papur Gwyn), mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (y Pwyllgor) wedi ystyried nifer o faterion sy'n ymwneud â'i gynnwys. O ganlyniad, mae gennym nifer o sylwadau a phryderon am rai elfennau o'r Papur Gwyn a nodir yn y memorandwm hwn.

 

2.           Nid yw'r Pwyllgor wedi ystyried pob un o'r cynigion yn y Papur Gwyn yn fanwl, gan fod hyn yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ond yn ystod ein gwaith rydym wedi ystyried nifer o feysydd fel pŵer cymhwysedd cyffredinol a chonsortia addysg rhanbarthol a fydd yn effeithio ar ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Rydym wedi anfon copi o'r memorandwm hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

3.           Wrth lunio'r ymateb hwn, mae'r Pwyllgor wedi ystyried tystiolaeth a roddwyd i ni gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Estyn, y Consortia Addysg Rhanbarthol, swyddogion Llywodraeth Cymru, a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Sylwadau'r Pwyllgor yn unig yw'r rhai a geir yn y ddogfen hon, ac rydym yn deall y bydd llawer o'r grwpiau hyn yn gwneud eu sylwadau eu hunain ar y Papur Gwyn.

Y prif themâu

4.           Er bod pwerau neu strwythurau ffurfiol o fudd er mwyn hwyluso gweithio rhanbarthol, mae angen rhannu gwybodaeth ac arfer gorau yn well o hyd ar draws Cymru, a symud tuag at gydffinio’r ôl troed rhanbarthol.

 

5.           Mae angen mynegi pwrpas a chyfeiriad clir ar y cychwyn i'r rheini sy'n gyfrifol am weithio'n rhanbarthol.

 

6.           Mae angen ystyried sut y caiff effaith y penderfyniadau a wneir o ganlyniad i'r Papur Gwyn eu mesur i werthuso effeithiolrwydd.


 

Trefniadau awdurdodau lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm

7.           Trafododd y Pwyllgor adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) 'Trefniadau awdurdodau lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm', a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2017. Rhoddodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru dystiolaeth i'r Pwyllgor.

Y pŵer cymhwysedd cyffredinol

8.           Canfu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol fod Deddf Lleoliaeth 2011 yn Lloegr, a gyflwynodd y pŵer cyffredinol cymhwysedd[1]:

"... wedi annog awdurdodau i ddatblygu cyfryngau masnachol fel ffordd o gynhyrchu incwm, ond nid yw'r pŵer hwn yn bodoli yng Nghymru, ac mae hynny'n cyfyngu ar gyfleoedd."

9.           Serch hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod rhai cyfyngiadau ar y pŵer hwn o ganlyniad i rai eithriadau yn y Ddeddf, a chyfyngiadau ar yr hyn y gall yr unigolyn ei wneud.

 

10.        Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, yn croesawu cyflwyno'r pŵer cymhwysedd cyffredinol, ac rydym hefyd yn croesawu hyn yn fras er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau na rhwystrau rhag arloesi.

11.        Fodd bynnag, rydym yn credu bod yn rhaid cyflwyno'r pŵer hwn ochr yn ochr â newid yn niwylliant awdurdodau lleol. Yn ei adroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi bod pwerau'n bodoli eisoes, ond mai prin yw’r dystiolaeth o'r defnydd ohonynt. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hefyd yn nodi bod gan awdurdodau yng Nghymru bwerau eang i weithredu mewn ffyrdd sy'n gwella neu'n hybu llesiant eu hardaloedd[2], ond nad yw'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio'n llawn.  

Cymorth ar gyfer rhannu gwybodaeth a phrofiad

12.        Clywodd y Pwyllgor nifer o enghreifftiau arloesol o sut mae awdurdodau lleol ar draws Cymru a Lloegr yn manteisio ar gyfleoedd i gynhyrchu incwm, ond rydym yn pryderu nad oedd y tystion yn gallu rhoi enghreifftiau yng nghyfarfod y Pwyllgor.[3]

 

13.        Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr arfer gorau sy'n cael ei ddatblygu a'i ddefnyddio yn cael ei rannu ymhlith pob awdurdod lleol. Mae lledaenu arfer gorau yn hanfodol i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd i gynhyrchu incwm.

 

14.        Roedd y Pwyllgor yn pryderu ei bod yn ymddangos bod CLlLC, mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a oes modd gwneud mwy i rannu gwybodaeth a phrofiad, yn awgrymu bod y cyfleoedd yn brin yn sgil cael gwared ar y grant gwella llywodraeth leol.

 

15.        Rydym yn credu bod yn rhaid gwneud mwy i sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad er mwyn hwyluso rhanbartholi. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod CLlLC yn manteisio'n llawn ar bob cyfle i rannu arferion gorau rhwng awdurdodau lleol, a dylai Llywodraeth Cymru anfon neges glir bod llaesu dwylo yn y maes hwn yn annerbyniol. 

 


 

Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned 2015-16

16.        Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei bumed adroddiad blynyddol ar ganfyddiadau'r archwiliadau statudol o gynghorau cymuned yng Nghymru ym mis Ionawr 2017. Canfu'r adroddiad fel a ganlyn:

"Mae gormod o gynghorau cymuned yng Nghymru yn cael barn archwilio amodol y gellir ei hosgoi ac mae hyn yn arbennig o wir am y cynghorau llai o faint."[4]

17.        Roedd y Pwyllgor yn pryderu o weld bod, ym mlwyddyn ariannol 2015-16, y rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol farn amodol ar 30% o'r cyfrifon cynghorau cymuned (sef dros 200 o gynghorau unigol), ac mai dim ond 20% o gynghorau a gafodd farn ddiamod heb unrhyw faterion pellach i'w hystyried. Cafodd y 50% sy'n weddill farn ddiamod, ond tynnwyd materion eraill i'w sylw. Fel y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rydym yn credu ei bod yn annerbyniol bod cyfran mor uchel o gynghorau cymuned wedi cael barn amodol ar eu cyfrifon yn ystod 2015-16, ac yn disgwyl gweld rheolaeth well ar arian cyhoeddus.

 

18.        Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn i gomisiynu adolygiad cynhwysfawr o gynghorau cymuned, ac mae'n credu y dylid defnyddio'r canfyddiadau yn adroddiadau'r Archwilydd Cyffredinol i lywio'r adolygiad hwn. Byddem yn disgwyl gweld nifer o argymhellion yn codi o'r adolygiad hwn sy'n gofyn am welliannau sylweddol o ran rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned. Rydym hefyd yn disgwyl i hyfforddiant ymwybyddiaeth rheoli ariannol gael ei wneud yn orfodol i bob aelodau o gynghorau cymuned, oherwydd y dylai cyfrifoldeb am lunio'r cyfrifon hyn yn amserol ac yn gywir gael ei ysgwyddo ar y cyd.

 

19.        Ar ben hynny, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol mai’r rhesymau mwyaf cyffredin dros roi barn archwilio amodol oedd methiant o ran:

 

- cadw at yr amserlen statudol ar gyfer y cyfrifon;

- rhoi trefniadau ar waith i reoli risg; neu

- bennu cyllideb briodol.

 

20.        O ystyried y rhesymau hyn, yn enwedig y methiant i wneud trefniadau priodol ar gyfer rheoli risg, sydd wedi bod yn rheswm ailadroddus wrth roi barn amodol yn y gorffennol ar gyfrifon cynghorau cymuned, mae gan y Pwyllgor bryderon ynghylch y cynnig yn y Papur Gwyn y byddai'r pŵer cyffredinol cymhwysedd yn cael ei roi i gynghorau cymuned.

 

21.        Er ein bod yn deall yr egwyddor o gynnwys y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned yn y ddeddfwriaeth hon, mae'r diffyg cyfrifoldeb ariannol mewn nifer sylweddol o gynghorau cymuned yn awgrymu bod y gyfran helaeth o gynghorau cymuned yn bell o fod yn barod am y cyfrifoldeb. Rydym yn argymell, nes i'r adolygiad cynhwysfawr gael ei gynnal ac i’r canfyddiadau gael eu rhoi ar waith, na ddylai'r pŵer cymhwysedd cyffredinol fod gael i gynghorau cymuned. Ar ben hynny, yn dilyn canlyniad yr adolygiad, ni ddylai ond fod ar gael i'r cynghorau hynny a all ddangos strategaeth glir ar gyfer ei ddefnyddio, gyda mesurau diogelwch priodol, ac yn destun gwaith adolygu rheolaidd.

 


 

Diogelwch cymunedol yng Nghymru

 

22.        Cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ym mis Hydref 2016 a oedd yn ymchwilio ynghylch a yw Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac awdurdodau lleol yn cydweithio'n effeithiol i fynd i'r afael â throseddu a materion eraill ynghylch diogelwch y cyhoedd sy'n cael effaith negyddol ar lesiant pobl. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad hwn ym mis Rhagfyr 2016 ac ysgrifennodd at y pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gofyn am eu barn am yr adroddiad.

 

23.        Er nad yw'r Papur Gwyn yn cyfeirio'n uniongyrchol at ddiogelwch cymunedol, mae'r Pwyllgor yn credu ei fod yn dangos rhai o'r materion a all godi o feysydd trawsbynciol â chyfrifoldebau cymhleth a chyfrifoldebau wedi'u hollti yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, a allai fod yn berthnasol yn y cyd-destun rhanbarthol ehangach.

 

24.        Nododd yr Archwilydd Cyffredinol nifer o bryderon yn ei adroddiad ynghylch atebolrwydd clir ac arweinyddiaeth aneglur, gwahaniaeth o ran cyfeiriad a blaenoriaethau strategol, aneglurder ymysg dinasyddion ynghylch rolau a chyfrifoldebau, ac adnoddau'n cael eu lledaenu'n eang a heb eu defnyddio'n effeithiol i wneud y mwyaf o’r effaith neu’r buddion i ddinasyddion. Roedd tystiolaeth ysgrifenedig Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn adleisio cryn dipyn o hyn.

 

25.        Mae'r Pwyllgor yn deall bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad mwy sylfaenol o'r setliad datganoli a phwerau a dyletswyddau'r gwahanol asiantaethau sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol. Fodd bynnag, rydym yn credu bod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a'r ymatebion gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dangos na fydd creu ffiniau heb fynd i'r afael â rhai o'r pwerau a'r cyfrifoldebau sylfaenol ynddo'i hun yn arwain at welliannau nac yn arwain at ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithlon ac yn effeithiol o ran cost. Mewn gwirionedd, gall hyn wneud y sefyllfa'n llawer mwy cymhleth a gwneud y gwaith o ddarparu gwasanaethau'n llai effeithiol.

 


 

Consortia Addysg Rhanbarthol – model ar gyfer rhanbartholi

 

26.        Yn dilyn cyhoeddi memorandwm yr Archwilydd Cyffredinol a oedd yn rhoi'r diweddaraf am hynt y gwaith mewn ymateb i'r argymhellion yn ei adroddiad ym mis Mehefin 2015 'Sicrhau gwelliannau yn y cymorth i ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol', cytunodd y Pwyllgor i edrych ar y materion yn codi o hyn, ac ystyried a oedd unrhyw wersi i'w dysgu ynghylch rhanbartholi. 

 

27.        Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y pedwar consortiwm ac Estyn yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth. Yn ogystal â hyn, gwnaethom gynnal arolwg gyda gweithwyr addysgu proffesiynol a chawsom ohebiaeth ysgrifenedig gan NASUWT Cymru. Mae gan y Pwyllgor nifer o sylwadau yn deillio o'r sesiynau hyn yr ydym yn credu y dylai'r Ysgrifennydd Cabinet eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer rhanbartholi.

Mandad clir

28.        Roedd y Pwyllgor yn pryderu y bu diffyg eglurder o'r cychwyn ynghylch rôl y consortia. Er ein bod yn cydnabod y bu cynnydd da o ran datblygu rôl y consortia ers y memorandwm diwethaf gan yr Archwilydd Cyffredinol, rydym yn pryderu ynghylch y dystiolaeth a roddwyd bod y cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer y consortia wedi bod yn aneglur o'r cychwyn.

 

29.        Roedd pob un o'r tystion yn dweud mai un o'r gwersi allweddol i'w dysgu oedd bod angen mwy o amser ar y cychwyn i amlinellu nodau a chyfeiriad i'r cyrff rhanbarthol sy'n cael eu sefydlu, gan ei bod wedi cymryd cryn dipyn o amser i fynd i'r afael â hyn a’i fod wedi effeithio ar y gallu i gyflawni.

 

30.        Wrth drafod yr hyn yr oedd yn meddwl y gellid fod wedi'i wneud yn wahanol, dywedodd Hannah Woodhouse, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De, wrthym:

 

“… getting the national model really clear at the beginning, before September 2012, in terms of responsibilities, budget, governance, success measures, capacity expectations.”[5] 

 

31.        Cytunodd Simon Brown, cyfarwyddwr strategol Estyn, fod y model cenedlaethol wedi bod o gymorth o ran gwella, a hefyd:

 

“… one of the issues with the national model when it first emerged in 2012 was it was a model that was developing quite quickly and some of that clarity wasn’t there in the original model”[6]

 

32.        Mae'r Pwyllgor yn cytuno bod angen gosod cyfeiriad cenedlaethol clir, ond mae'n credu y dylai'r system fod yn hyblyg, yn hytrach na bod yn rhy ragnodol, o ran sut i gyflwyno'r darlun cenedlaethol. Mae gan bob rhanbarth heriau gwahanol i fynd i'r afael â nhw, e.e. natur wledig, darpariaeth cyfrwng Cymraeg a bod gweithio rhanbarthol yn llwyddiant, ond rydym yn credu bod hyblygrwydd o dan strategaeth genedlaethol yn hanfodol.

33.        Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod ymdeimlad o gystadleuaeth rhwng y cyrff yn ystod y cyfnod cychwynnol o sefydlu'r consortia. Er ein bod yn croesawu'r ffaith eu bod bellach yn gweithio gyda'i gilydd gydag ymdeimlad o gydweithredu, rydym yn parhau i bryderu am sut y mae'r consortia yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth. Er enghraifft, roedd yn ymddangos mai prin oedd y wybodaeth ar draws consortia am y prosiectau ymchwil sy'n digwydd ym mhob consortiwm.

 

34.        Wrth symud ymlaen i ranbartholi gwasanaethau eraill, rydym yn credu y dylid dysgu'r wers o brofiadau'r consortia ac y dylai Llywodraeth Cymru bennu canllawiau a fframweithiau clir i'r rheini sy'n gyfrifol am ddarparu'n rhanbarthol i weithio tuag atynt o'r cychwyn.

 

Yr ôl troed rhanbarthol

35.        Trafododd y Pwyllgor gyda'r tystion y risgiau a'r manteision o newid yr ôl troed rhanbarthol ar gyfer y consortia yn sgil unrhyw newidiadau i'r strwythurau rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. 

 

36.        Dywedodd y tystion fod nifer o risgiau o newid y strwythurau presennol, oherwydd y gallai hyn erydu cynnydd cadarnhaol y consortia at welliannau addysgol. Ar ben hynny, roedd pryderon y gellir gwneud newidiadau i strwythur y consortia addysgol rhanbarthol i fynd i'r afael â rhai o broblemau'r strwythur llywodraeth leol, oherwydd y dylai'r ffocws ar gyfer unrhyw newidiadau i'r consortia fod yn seiliedig ar welliant addysgol.

 

37.        Cawsom dystiolaeth ynghylch pryderon sylweddol am y nifer o arweinwyr ysgolion da a'r risg posibl o drosiant staff yn sgil amgylchedd ansicr, a allai achosi ansefydlogrwydd. Mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig gosod llwybr clir ar gyfer y strwythur rhanbarthol dros y tymor canolig i'r tymor hir i roi'r sicrwydd sydd ei angen ar bobl.

 

38.        Roedd peth cytundeb ymhlith y tystion fod budd amlwg i unrhyw fodel rhanbarthol fod yn cydffinio â gwasanaethau presennol yn y dyfodol. Ni chafodd y Pwyllgor unrhyw dystiolaeth glir ynghylch a fyddai'n well i ddilyn strwythur y byrddau iechyd lleol neu'r rhanbarthau datblygu economaidd. Fodd bynnag, awgrymodd Estyn fod rhywfaint o fudd i ddefnyddio'r ffiniau economaidd, oherwydd:

“…if you think of pre-16 education going through into post-16, and an alignment, so that you’ve got schools and post-16 providers mapping the skillset in a region to the economic skills of a particular region, using labour market information ultimately, the economic footprint on an economic model tends to make sense, because you’re then developing learners who’ve got the necessary skills for the economic market within their region, assuming there’s not a lot of cross-Wales movement of labour at the moment.”[7]

 

39.        O ystyried bod y consortia wedi'u sefydlu a'i bod yn ymddangos i fod yn gwella ac yn aeddfedu, rydym yn credu bod gwerth mewn cynnal y strwythur hwn (gan gydnabod y gallai fod rhai addasiadau bach).

 

Llywodraethu ac atebolrwydd mewn strwythur rhanbarthol

40.        Cododd y Pwyllgor nifer o bryderon ynghylch y berthynas rhwng awdurdodau addysg lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, ac a oes digon o eglurder rhwng eu rolau i ganiatáu digon o atebolrwydd i'r etholwyr.

 

41.        Mae arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn i weithio rhanbarthol fod yn llwyddiant. Mae'n hanfodol bod aelodau etholedig yn ymwneud â'r broses a'u bod yn deall eu rôl yn y broses graffu.

 

42.        Roedd ymatebion y tystion yn nodi bod hwn yn fater byw sy'n cael ei ystyried a'i ddatblygu o hyd. Fel Pwyllgor, byddem yn annog bod y trefniadau llywodraethu yn cael eu hystyried yn drylwyr i sicrhau bod y cyfrifoldebau'n glir a bod modd i'r etholwyr barhau i weld yn amlwg pa gynrychiolwyr lleol sy'n gyfrifol.

 

43.        Nid yw Estyn wedi rhoi unrhyw farn arolygu ar effaith y consortia, ac yn ystod y sesiwn dystiolaeth amlinellodd nifer o anawsterau wrth wahanu cyflawniadau ysgolion unigol ac effaith y consortia. Dywedodd na fyddai'n ceisio gwneud hynny yn y dyfodol agos.

 

44.        Rydym yn credu bod angen ystyried sut i farnu llwyddiant/effaith gweithio rhanbarthol lle mae hyn yn parhau i orwedd ochr yn ochr â chyfrifoldebau lleol. Yn achos addysg, mae ysgolion unigol yn cael dylanwad sylweddol ac yn gyfrifol am benderfyniadau yn y pen draw, sy'n ei gwneud yn gymhleth ar y gorau i weld beth yw effaith y consortia rhanbarthol.

 

45.        Hefyd, roedd yr arolwg a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn dangos bod llawer yn y proffesiwn addysgu heb fawr o wybodaeth/dealltwriaeth o'r hyn y mae'r consortia yn ei wneud. Gan gydnabod y ddadl a gyflwynwyd gan ein tystion mai gwella ysgolion a chanlyniadau cadarnhaol yw'r hyn sy'n bwysig, rydym yn credu, er mwyn i weithio rhanbarthol fod yn llwyddiant, bod angen cydnabod ei fod yn cael effaith gadarnhaol.


 

Casgliad

46.        I grynhoi:

-       Mae'r Pwyllgor yn gyffredinol yn croesawu'r cysyniad o gyflwyno'r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhag arloesi. Rydym yn credu y dylai cyflwyno'r pŵer cymhwysedd cyffredinol fynd law yn llaw â newid mewn diwylliant, gydag awdurdodau lleol yn barod i wneud defnydd llawn o'r pwerau o dan eu rheolaeth, a rhannu arfer gorau a gwybodaeth yn well.

 

-       Ni ddylai'r pŵer cymhwysedd cyffredinol ond fod ar gael i'r cynghorau cymuned hynny a all ddangos rheolaeth ariannol gadarn a strategaeth glir ar gyfer ei ddefnyddio. Ni ddylid datganoli'r pŵer hwn nes i'r adolygiad cynhwysfawr o gynghorau cymuned (y cyfeirir ato yn y Papur Gwyn) gael ei gwblhau.

 

-       Mae'r dystiolaeth o sefydlu'r consortia addysg rhanbarthol yn dangos yn amlwg bod angen pennu mandad a chyfeiriad clir o'r cychwyn wrth sefydlu strwythurau rhanbarthol. Ar ben hynny, mae angen ystyried sut y caiff effaith rhanbartholi ei mesur a'i chyfleu, a cheir tystiolaeth o hyn yn y diffyg eglurder ynghylch yr hyn y mae'r consortia rhanbarthol wedi'i wneud a'r ymateb negyddol o ganlyniad.

 

-       Mae'r Pwyllgor yn credu, wrth symud ymlaen, y dylid anelu at gymaint o gydffinio â phosibl rhwng strwythurau rhanbarthol. Dyma'r ffordd symlaf i'r cyhoedd ddeall a’r ffordd symlaf o safbwynt gweinyddu.



[1] Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Trefniadau awdurdodau lleol i godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm, paragraff 1.13

[2] Llythyr Llywodraeth Cymru, 6 Rhagfyr 2016

[3]Llythyr Graham Hinchey, Cyngor Dinas Caerdydd, Mawrth 2017

Llythyr Llywodraeth Cymru, Chwefror 2017

 

[4] Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned 2015-16, Tudalen 15, Ionawr 2017

[5] Cofnod y Trafodion, 27 Mawrth 2017, Paragraff 115

[6] Cofnod y Trafodion, 27 Mawrth 2017, Paragraff 361

[7] Cofnod y Trafodion, 27 Mawrth 2017, Paragraff 273